Three Welsh Bird Songs: Mae Hiraeth Yn Y Mor - Charlotte Church

Mae hiraeth yn y mor a?r mynydd maith
Mae hiraeth mewn distawrwydd ac mewn can
Mewn murmur dyfroedd ar dragwydd daith
Yn oriau?r machlud ac yn fflamau?r tan
Ond mwynaf yn y gwynt y dwed ei gwyn
A thristaf yn yr hesg y cwyna?r gwynt
Gan ddeffro adlais adlais yn y brwyn,
Ac yn y galon, atgof atgof gynt

Fel pan wrandawer yn y cyfddydd hir
Ar gan y ceiliog yn y glwyd gerlaw:
Yn deffro caniad ar ol caniad clir
O?r gerddi agos, nes o?r llechwedd draw
Y cwyd un olaf ei leferydd ef
A mwynder trist y pelter yn ei lef.

view 2,663 times

comments