Lisa Lan - Katherine Jenkins

Bum yn dy garu lawer gwaith
Do lawer awr mewn mwynder maith
Bum yn dy gusanu Lisa gel
Yr oedd dy gwmni'n well na'r mel.

Fy nghangen lan, fy nghowlad glyd
Tydi yw'r lanaf yn y byd
Tydi sy'n peri poen a chri
A thi sy'n dwyn fy mywyd i.

Pan fyddai'n rhodio gyda'r dydd
Fy nghalon fach sy'n mynd yn brudd
Wrth glywed swn yr adar man

Daw hiraeth mawr am Lisa Lan.

Pan fyddai'n rhodio gyda'r hwyr
Fy nghalon fach a dodd fel cwyr
Wrth glywed swn yr adar man
Daw hiraeth mawr am Lisa lan.

Lisa, a ddoi di i'm danfon i
I roi fy nghorff mewn daear ddu?
Gobeithio doi di, f'annwyl ffrind
Hyd lan y bedd, lle'r wyf yn mynd.

Hiraeth mawr am Lisa Lan.
Hiraeth mawr am Lisa Lan.

view 312 times

comments